Rhif y ddeiseb: P-06-1162

Teitl y ddeiseb: Rhannu Sir Rhondda Cynon Taf ac uno Cwm Cynon â Sir Merthyr

Geiriad y ddeiseb: Yn ystod y cyfyngiadau lleol hyn, daeth yn amlwg iawn bod Cwm Cynon (Aberdâr yn bennaf) wedi'i ddatgysylltu'n llwyr oddi wrth weddill Rhondda Cynon Taf. Mae'r holl gyfleusterau lleol yn ein hardal wedi'u symud i Ferthyr, sef ein llys, ein hysbyty, ein cofrestrfa ar gyfer genedigaethau / marwolaethau, ein canolfan siopa, ac ati.

Daeth hyn yn amlwg iawn pan ddywedwyd wrth drigolion Aberdâr na chânt deithio i Ferthyr ond bod yn rhaid iddynt deithio’r holl ffordd i Lantrisant. A ydych chi erioed wedi ceisio mynd i Lantrisant ar drafnidiaeth gyhoeddus?

Mae barn gyffredinol yn Aberdâr ein bod ni o dan anfantais wrth ystyried y gwariant sy'n amlwg ym Mhontypridd / Tonysguboriau ac ati oherwydd eu bod nhw yn agosach at y Brifddinas. Mae’r Rhondda yn cael llawer o arian am ei bod wedi’i nodi fel ardal ddifreintiedig, ac mae’n rhaid i drigolion Cwm Cynon godi arian ar gyfer cael unrhyw gyfleusterau, er enghraifft y pad sblasio yn y parc, ac eto cafodd Pontypridd y pwll a'r parc sblasio. Cawsant hwy y rhwydwaith ffordd liniaru o amgylch Pentre’r Eglwys flynyddoedd yn ôl, ac rydyn ni'n dal i aros i'r ffordd gael ei gwneud yn ffordd ddeuol rhyngom ni a Merthyr er ei bod yn cael ei hystyried yn un o'r ffyrdd mwyaf peryglus yn Ne Cymru.

Gyda phoblogaeth Rhondda Cynon Taf y drydedd boblogaeth fwyaf yng Nghymru, ychydig yn llai na dinas Abertawe a dinas Caerdydd, ac yn un o'r ardaloedd mwyaf ar ôl Powys, mae'n amlwg nad yw'r Sir hon yn addas at y diben.

Gyda Sir Merthyr, flaengar, rydym o’r farn y byddem yn ffynnu ac yn sir a gâi ei rhedeg yn well, yn enwedig gan fod y cyfyngiadau lleol fel pe baent am fod yn ddigwyddiadau cyffredin yn y dyfodol.

 

 


1.     Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru

Sefydlodd Deddf Llywodraeth Leol (Democratiaeth) (Cymru) 2013  (fel y’i diwygiwyd) (“Deddf 2013”) broses gyfreithiol ar gyfer cynnal adolygiadau o ffiniau a threfniadau etholiadol yng Nghymru. O dan Ddeddf 2013, sefydlwyd Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru (“y Comisiwn Ffiniau”), sef corff annibynnol a noddir gan Lywodraeth Cymru. Rôl y Comisiwn Ffiniau yw monitro ac adolygu’r ardaloedd a’r trefniadau etholiadol sy’n berthnasol i’r strwythur llywodraeth leol yng Nghymru.

Mae adran 14 o Ddeddf 2013 yn rhoi pŵer cyfarwyddo cyffredinol i Weinidogion Cymru mewn perthynas â’r Comisiwn Ffiniau. Rhaid i’r Comisiwn gydymffurfio ag unrhyw gyfarwyddyd (boed yn gyffredinol neu’n benodol) a roddir iddo gan Weinidogion Cymru.

Adolygu Ffiniau’r Prif Ardaloedd

Caiff y Comisiwn Ffiniau, o’i wirfodd neu ar gais un o’r Prif Gynghorau (sef yr awdurdodau lleol), gynnal adolygiad o un neu ragor o’r prif ardaloedd (ffiniau’r awdurdodau lleol) yng Nghymru. Mae adran 23 o Ddeddf 2013 yn nodi'r gofynion ar gyfer cynnal adolygiad o un o’r prif ardaloedd.

Yn dilyn adolygiad o ffiniau prif ardal, rhaid i’r Comisiwn Ffiniau wneud cynigion i Weinidogion Cymru. Yn ei gynigion, gall y Comisiwn Ffiniau gynnig unrhyw newidiadau i brif ardal y mae o’r farn sy’n briodol, gan gynnwys:

-          newid y ffin i brif ardal;

-          diddymu prif ardal;

-          cyfansoddi prif ardal newydd.

Mae’r Comisiwn Ffiniau wedi cyhoeddi canllawiau ar y gweithdrefnau sydd ynghlwm wrth gynnal adolygiadau o’r prif ardaloedd yng Nghymru. Nid yw wedi cynnal adolygiad o brif ardal ers i Ddeddf 2013 gael ei phasio.

Mathau eraill o adolygiadau ffiniau

Mae gan y Comisiwn Ffiniau bwerau hefyd i adolygu’r ffiniau cymunedol sy’n bodoli o fewn ardaloedd awdurdodau lleol, ac i adolygu siroedd wedi’u cadw a ffiniau tua'r môr. Cafodd yr adolygiad diweddaraf o ffiniau cymunedol ei gynnal yn Sir Fynwy, gydag Argymhellion Terfynol y Comisiwn Ffiniauyn cael eu cyhoeddi ym mis Ionawr 2019.

Adolygu trefniadau etholiadol

Mae Deddf 2013 hefyd yn gosod dyletswydd ar y Comisiwn Ffiniau i gynnal adolygiad o’r trefniadau etholiadol ar gyfer pob prif ardal o leiaf unwaith ym mhob cyfnod adolygu. Mae gwefan y Comisiwn Ffiniau yn nodi mai nod adolygiad etholiadol yw sicrhau:

o fewn pob ardal awdurdod lleol, bod trefniadau etholiadol yn ceisio cyflawni cydraddoldeb. Trwy ddefnyddio strwythur cymunedol presennol awdurdod lleol, bydd arolwg etholiadol yn ystyried hunaniaeth gymunedol, cydraddoldeb etholiadol ac adborth o ymgynghoriadau er mwyn sicrhau bod ein cynigion yn cynnal buddion llywodraeth leol effeithiol a chyfleus ar gyfer etholwyr Cymru.

Rhaid i'r Comisiwn Ffiniau gyhoeddi amserlen ar gyfer cynnal pob un o'r 22 o adolygiadau, cyhoeddi cynigion drafft, cynnal ymgynghoriad helaeth, a chyflwyno ei argymhellion terfynol i Weinidogion Cymru. Gellir darllen y wybodaeth ddiweddaraf am y broses gyfredol ar gyfer cynnal adolygiadau etholiadol ar wefan Llywodraeth Cymru

2.     Camau gweithredu Llywodraeth Cymru

Mae Deddf 2013 yn caniatáu i Weinidogion Cymru roi cyfarwyddiadau i'r Comisiwn mewn perthynas ag arfer ei swyddogaethau adolygu. Mae gan Weinidogion Cymru bwerau hefyd i roi cyfarwyddyd i’r Comisiwn gynnal adolygiad, neu adolygiad pellach, o ardal benodol yn sgil argymhellion gan y Comisiwn Ffiniau.

Gall y cyfarwyddyd hwn nodi materion penodol y mae Gweinidogion Cymru yn dymuno i'r Comisiwn roi sylw iddynt wrth gynnal yr adolygiad.

Mae adran 37 o Ddeddf 2013 yn gwneud darpariaeth i Weinidogion Cymru weithredu argymhellion y Comisiwn Ffiniau mewn perthynas ag adolygiad a gynhelir o dan adran 23 (adolygiad o ffiniau prif ardal). Caiff y Gweinidog dan sylw, drwy Orchymyn, ‘weithredu unrhyw argymhelliad, gydag addasiadau neu hebddynt’, neu benderfynu 'peidio â gweithredu’.

Nid yw Llywodraeth Cymru wedi gwneud unrhyw ddatganiad, nac wedi darparu gwybodaeth, mewn perthynas â’r ddeiseb hon.

3.     Camau gweithredu’r Senedd

Mae gorchmynion a rheoliadau a wneir o dan adrannau 37 i 39, a 43 o Ddeddf 2013 (ac eithrio adran 37(1) a 41(1)), yn ddarostyngedig i'r gofynion a'r gweithdrefnau a nodir yn yr adrannau hynny ac adrannau cysylltiedig yn unig. Yn ymarferol, yr hyn y mae hyn yn ei olygu yw y gellir meddwl am y rhain fel offerynnau statudol 'dim gweithdrefn ac, o'r herwydd, nid ydynt yn destun gwaith craffu gan y Senedd drwy naill ai'r weithdrefn negyddol neu gadarnhaol.

Fodd bynnag, dylid nodi bod y gweithdrefnau penodol a nodir yn yr adrannau perthnasol yn gosod nifer o ofynion sy’n debyg i ofynion craffu, fel ymgynghori â phartïon penodedig, terfynau amser, a lle maent yn cael eu gwneud heblaw gan Lywodraeth Cymru, cymeradwyaeth Gweinidogion Cymru. Felly, bydd Gweinidogion Cymru yn gwneud penderfyniad ynghylch a ddylid gweithredu argymhellion y Comisiwn drwy Orchymyn, gydag addasiadau neu hebddynt – neu ddim o gwbl yn dilyn cyfnod o gyflwyno sylwadau.

Nid yw'r mater hwn wedi cael ei ystyried gan y Senedd.

 

Gwneir pob ymdrech i sicrhau bod y wybodaeth yn y papur briffio hwn yn gywir adeg ei gyhoeddi. Dylai darllenwyr fod yn ymwybodol nad yw’r papurau briffio hyn yn cael eu diweddaru o reidrwydd na’u diwygio fel arall i adlewyrchu newidiadau dilynol.